Archebu dros y Ffôn
I gofrestru ac archebu llety cysylltwch â Chanolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor ar:
+44 1248 383293
Bydd modd i chi dalu gyda’ch cerdyn credyd dros y ffôn. Byddai’n gymorth i chi gael y manylion y gofynnir amdanynt isod yn barod pan fyddwch yn ffonio.
Fel arall, gallwch argraffu’r ffurflen hon a’i ffacsio i Ganolfan Bedwyr cyn ffonio gyda manylion eich cerdyn. Gallwch hefyd roi’r manylion isod mewn ebost. PEIDIWCH â rhoi manylion eich cerdyn credyd mewn ffacs neu ebost.
FFURFLEN GOFRESTRU A LLETY
Dychwelwch drwy ebost at: cbs602@bangor.ac.uk neu drwy ffacs i Brifysgol Bangor ar +44 (0)1248 383243.
Er mwyn talu, ffoniwch Prifysgol Bangor ar +44 (0)1248 383293
Enw:
Sefydliad:
Cyfeiriad:
E-bost:
Rhif ffôn:
Ydych chi’n cyflwyno papur/gweithdy? Ydw/Na (Os ydych, rhowch deitl y papur/gweithdy).
Ydych chi’n fyfyriwr? Ydw/Na (Os ydych, rhowch enw eich prifysgol, adran a’r cwrs rydych chi wedi cofrestru arno).
Rhowch y dyddiad rydych chi’n talu (Mae gostyngiadau i’r rhai sy’n talu ar neu cyn Gorffennaf 31).
Y ffioedd cofrestru CYN Gorffennaf 31 yw £115 ar gyfer mynychwyr, £95 ar gyfer cyflwynwyr, a £75 ar gyfer myfyrwyr. O Awst 1 ymlaen y ffioedd fydd £155 ar gyfer mynychwyr, £125 ar gyfer cyflwynwyr, a £99 ar gyfer myfyrwyr. Mae hyn yn cynnwys dau ginio bwffe a phaned bore a phrynhawn ar y ddau ddiwrnod.
Ydych chi angen llety? Ydw/Na
Os ydych, nodwch p’un ai yn y Ganolfan Rheolaeth Busnes neu Neuadd Breswyl yr hoffech aros, ynghyd a’r dyddiadau a nifer y nosau sydd eu hangen.
Os ydych yn aros yn y Ganolfan Rheolaeth Busnes, ydych chi angen lle i ail berson yn eich ystafell? Ydw/Na.
(Os ydych, rhowch enw’r ail berson fydd yn rhannu gyda chi).
Pris y llety (yn cynnwys brecwast) yw £65 yr ystafell y noson yn y Ganolfan Rheolaeth, ar gyer un person, a £75 yr ystafell y noson, ar gyfer dau berson. Mae cynnig arbennig o £60 / £70 yr ystafell y noson i’r rhai sy’n dymuno aros ymlaen ar gyfer y 23ain a/neu24ain hefyd. Cost llety mewn neuadd breswyl (gan gynnwys brecwast) yw £33.18 y noson (ystafelloedd sengl yn unig).
CYFANSWM PRIS (Cofrestru a Llety os yn gymwys):





