Bangor University
The British Standards Institute
The World Language Documentation Centre
Welsh Assembly Government
UNESCO
English
GUM3C

Datgan Cynhadledd

Mae Canolfan Dogfennu Ieithoedd y Byd, ar y cyd â Phrifysgol Bangor, yn dymuno cyhoeddi cynhadledd ryngddisgyblaethol bwysig i ddathlu 2008 fel Blwyddyn Ryngwladol Ieithoedd y Byd

Awst 22-23, 2008

I’w chynnal yng Nghanolfan Cynadleddau Rheolaeth Busnes Prifysgol Bangor

Cefnogir y digwyddiad hwn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Phwyllgor Cenedlaethol y DU ar gyfer UNESCO

Cyhoeddodd y Cenhedloedd Unedig y bydd 2008 yn Flwyddyn Rhyngwladol Ieithoedd y Byd, gan gydnabod pwysigrwydd amlieithrwydd ar gyfer cyd-ddealltwriaeth ryngwladol. Bydd cynhadledd GUM3C yn ceisio pontio’r bwlch cyfathrebu rhwng y byd academaidd a diwydiant, gan ofyn (a cheisio ateb) cwestiynau megis:

  • Sut all diwydiant helpu’r byd academaidd i flaenoriaethu ei ymchwil i amlieithrwydd, amlfoddau ac amlgyfryngau?  
  • Beth yw’r safonau sy’n datblygu, pwy sy’n eu datblygu a sut fyddant yn cael eu defnyddio?
  • Sut fydd hyn yn creu heddwch, ffyniant economaidd a chyd-ddealltwriaeth rhwng gwledydd

Prif Siaradwyr

Christian Galinski, Cyfarwyddwr Infoterm ac Ysgrifennydd ISO TC/37
David Crystal, Athro er Anhrydedd, Prifysgol Bangor
Richard Ennals, Cyfarwyddwr Comisiwn Cenedlaethol y DU ar gyfer UNESCO

Galwad am bapurau:
Gwahoddir papurau llawn a chynigion am bosteri ar gyfer eu hadolygu gan gymheiriaid. Dylai’r papurau hyn fod yn gyfraniadau gwreiddiol heb eu cyhoeddi o’r blaen ar themâu:

  • diogelu, curadu, a chadw ieithoedd a diwylliannau  
  • adnoddau ar gyfer ieithoedd prin eu hadnoddau
  • creu isadeiledd ar gyfer amlieithrwydd
  • disgrifio a dogfennu ieithoedd
  • ethnigrwydd, hunaniaeth a iaith
  • cyfathrebu amlfodd a chefnogaeth ar gyfer anableddau
  • ieithyddiaeth gwe-gorpws
  • sialensau a buddiannau’r rhyngrwyd amlieithog
  • ontolegau amlgyfrwng a’r we semantig/bragmatig

a phynciau sy’n ymwneud yn gyffredinol â sialensau ar gyfer terminolegau, lecsica, ontolegau, ac adnoddau cynnwys sy’n perthyn iddynt.

Galwad am weithdai:
Croesewir ceisiadau am weithdai ar bynciau penodol. Dylai trefnwyr gweithdai gyflwyno’u pwnc i bwyllgor y gynhadledd, gan enwi’r gynulleidfa darged, thema’r gweithdy, trefnwyr y gweithdy a’u sefydliad neu gorff. Croesewir yn arbennig weithdai wedi’u hanelu at gwmnïau bach a chanolig eu maint, a’r sectorau meddalwedd, cyfieithu a diwydiannau creadigol.  Bydd  y gynhadledd yn medru defnyddio ystafell gyfrifiadurol bwrpasol gyda 25 terfynell gyfrifiadur (gw. yma) ac felly gellir cynnal gweithdai ymarferol arbenigol. Bydd gan ystafelloedd seminar eraill yno offer cyflwyno o safon uchel gan gynnwys taflunyddion data a sgriniau mawr.

Dyddiadau pwysig:

Dyddiad cau cynigion

Mai 15, 2008

Hysbysu’r canlyniadau

Mehefin 15, 2008 

Cofrestru a chopi parod i’r camera

Mehefin 30, 2008 

Bydd llawysgrifau terfynol yr awduron yn 8.5" x 11" (dwy golofn fformat IEEE:).  Ni ddylai papurau llawn fod yn fwy nag 8 tudalen o hyd.  Cyflwyniadau poster i beidio â bod yn fwy na 4 tudalen. Gellir cael hyd i demplad Word a chyfarwyddiadau fformation yma.

Dylid gyrru pob ymholiad yn y man cyntaf at info@thewldc.org

Pwyllgor Gweinyddol: 
Debbie Garside (Cadeirydd) , Prif Weithredwr Canolfan Dogfennu Ieithoedd y Byd (WLDC)
Delyth Prys (Ysgrifennydd), Prifysgol Bangor, y DU
Chris Cox, Rheolwr Ansawdd a Chydymffurfio GLMDR
Mike Roberts, Cadeirydd, BSI/TC TS/1
Lee Gillam, Prifysgol Surrey, y DU.
Anja Drame, Info Term
Eva-Maria Leitner, Cadeirydd Language Standards for Global Business

Pwyllgor gwyddonol:
Anja Drame, InfoTerm
Anthony Aristar, Linguist List
Chris Cox, Rheolwr Ansawdd a Chydymffurfio GLMDR
Debbie Garside, Prif Weithredwr, Canolfan Dogfennu Ieithoedd y Byd (WLDC)
Delyth Prys, Prifysgol Bangor
Don Osborn, Bisharat
Doug Ewell, IETF
Eva-Maria Leitner, Cadeirydd Language Standards for Global Business
Gerard Meijssen, OmegaWiki
Gerhard Budin, Cadeirydd, ISO/TC 37 SC2
Havard Hjulstad, Cadeirydd, ISO/TC 37 a ISO/TC 37 SC2 WG1
Jennifer de Camp, MITRE
John Cowan, IETF
Jonathan Amith, Prifysgol Yale
Karen Broome, Arbenigwr Diwydiannol
Khaled Fattal, CEO, Multilingual Internet Names Consortium
Laurent Romary, Cyfarwyddwr, Max-Planck Digital Library
Lee Gillam, Prifysgol Surrey
Maosong Sun, Prifysgol  Tsinghua Beijing
Martin Benjamin, Project Kamusi
Michael Everson, Cofrestrydd Consortiwm Unicode ar gyfer ISO 15924
Mike Roberts, Cadeirydd, BSI/TC TS/1
Peter Austin, SOAS
Peter Wittenburg, Cyfarwyddwr Technegol, Sefydliad Max-Planck ar gyfer Seicoieithyddiaeth
Sue Ellen Wright, Sefydliad Ieithyddiaeth Gymhwysol Prifysgol Kent State

Digwyddiadau cymdeithasol
Cynhelir y gynhadledd i gyd-fynd â Gala Bryn Terfel a bydd cynadleddwyr felly yn medru mwynhau’r cyngherddau fin nos yn yr ŵyl enwog hon. Gweler http://www.brynfest.com am ragor o fanylion.

Teithio a Llety
Mae llety o ansawdd da ar gael am bris rhesymol ym Mhrifysgol Bangor nail ai yn y Ganolfan Rheolaeth Busnes neu yn y neuaddau preswyl. Mae’r ystafelloedd i gyd en-suite gyda chyfleusterau rhwydwaith ac ati.

Meysydd Awyr gyda chysylltiadau teithio i Fangor
Mae meysydd awyr Lerpwl a Manceinion o fewn 1.5 awr o daith o Fangor. Mae meysydd awyr Llundain o fewn cyrraedd a gellir eu cyfuno gyda theithio gyda thrên i Fangor.

Mae gorsaf drenau Bangor wedi’i lleoli ar y lein uniongyrchol rhwng Llundain a Chaergybi. Gallwn drefnu bws gwennol hefyd i gyfarfod â phobl fydd yn cyrraedd drwy faes awyr Manceinion.

Mae glanio yn Nulyn hefyd yn ddewis i bobl sy’n hedfan i’r gynhadledd. Mae fferi gyflym yn cymryd 99 munud o Ddulyn i Gaergybi, sydd ond 20 munud i ffwrdd o Fangor.

Home
Registration
Accomodation
Travel
Submission
Workshops
Important Dates
Committees
Sponsorship
Welsh Assembly Government
UNESCO
The British Standards Institute
The World Language Documentation Centre
Bangor University
Language Standards for Global Business
Language Standards for Global Business